Mae'r hysbyseb newydd ar gyfer yr ail gyfres o'r ffantasi a seliwyd ar nofelau Philip Pullman wedi cyrraedd.

Dyma rhybudd: Anrheithwyr i ddod!
Mae'r ail gyfres yn dychwelyd yn ôl i fywydau Lyra Belacqua a Will Parry (chwaraewyd gan Dafne Keen ac Amir Wilson), sy'n ddau blentyn wedi'u cysylltu ar draws bydoedd parallel. Mi fydd Andrew Scott hefyd yn dychwelyd fel tad Will, ond y tro yma gyda rhan fwy pennaf. Actorion newydd sy'n ymuno â'r gyfres ydy Terence Stamp, Jade Anouka a Simone Kirby. Datganwyd gan y creawdur ei hun, Jack Thorne, ar ei dudalen Trydar.
Does dim cadarnhad eto ar ddyddiad darlledu, ond wrth edrych ar y fideo, mi fydd hi'n werth disgwyl.
Fel arfer yn 4Wood, rydyn ni'n hynod falch o'n gweithwyr a'r cyfranwyr ar eu gwaith trawsnewidiol yn y sioe.
Os gollech chi'r fideo, gwelwch hi yma:
Caiff y gyfres ei dosbarthu gan BBC a HBO, a chynhyrchwyd yn gydweithredol gan Blaidd Drwg, New Line Productions a Scholastic.